Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow all or manage them individually.

Manage cookiesAllow all

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you’re interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.

Save preferences

Gadael y safle

Arolwg Anifeiliaid Anwes a Cham-drin Domestig 2019

Lansiwyd y Prosiect Rhyddid am y tro cyntaf yn 2004, mewn ymateb i dystiolaeth gynyddol o'r cysylltiad rhwng cam-drin pobl ac anifeiliaid. Ers hynny, mae'r prosiect a gwybodaeth y tîm wedi parhau i ehangu, ac erbyn heddiw, ymchwil yw un o'r nodweddion sy'n sbarduno ein gwaith.

Drwy ein gwaith i helpu goroeswyr cam-drin domestig, rydym wedi sylweddoli, yn anffodus, bod patrymau i’w gweld yn aml yn yr achosion rydym yn gweithio â hwy. Mae llawer o oroeswyr sy'n defnyddio'r Prosiect Rhyddid wedi dweud wrthym na fyddent wedi gadael eu hanifeiliaid anwes ar ôl er mwyn cyrraedd lle diogel. Mae gweithwyr proffesiynol yr ydym yn gweithio ochr yn ochr â hwy wedi ein hysbysu dro ar ôl tro am nifer o achosion maent wedi dod ar eu traws lle mae cyflawnwr wedi defnyddio anifail anwes i orfodi a rheoli goroeswr. Rydym wedi gweld drosom ein hunain yr effaith y gall y cam-drin ei gael ar y cŵn.

Rydym hefyd wedi gweld drosom ein hunain gymaint mae'r cŵn hyn yn ei olygu i'w perchnogion. Maent yn cynnig cysur a chwmnïaeth mewn cyfnodau ofnadwy o anodd. Maent yn cynnig cynhesrwydd a chariad. I lawer o’r goroeswyr rydym yn gweithio â hwy ar y Prosiect Rhyddid, eu ci oedd eu hachubiaeth.

Ar ôl 15 mlynedd o sgyrsiau fel hyn ac o weld yr effeithiau hyn, roeddem am ddeall yn well beth oedd graddfa cam-drin yn erbyn anifeiliaid anwes fel rhan o gam-drin domestig. Felly cynhaliwyd arolwg ledled y DU gan gysylltu â gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar y rheng flaen i helpu goroeswyr cam-drin domestig. Roedd ein canfyddiadau'n frawychus.

Mae 49% o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y sector yn ymwybodol o achosion o gam-drin domestig lle mae anifail anwes wedi'i ladd. Yn ogystal â'r cam-drin corfforol y gallai anifeiliaid anwes ei ddioddef, dywedodd 97% o weithwyr proffesiynol eu bod hefyd yn cael eu defnyddio'n aml fel ffordd o reoli a gorfodi rhywun sy'n profi cam-drin domestig.

Dywedodd 9 o bob 10 gweithiwr proffesiynol hefyd na fydd rhai goroeswyr yn fodlon gadael eu cartref heb wybod y byddai eu hanifail anwes yn ddiogel.

Mae'r ffigurau hyn yn amlygu'r angen am y Prosiect Rhyddid. Mae'n wasanaeth hanfodol sy'n cynnig achubiaeth i oroeswyr na fyddent fel arall yn gadael eu hanifeiliaid anwes ar ôl. Gobeithiwn y daw diwrnod pan na fydd modd i gyflawnwyr gam-drin. Gobeithiwn y daw diwrnod hefyd lle na fydd neb yn byw mewn ofn yn eu cartref eu hunain. Ond hyd nes y daw’r diwrnod hwnnw, byddwn yma i helpu goroeswyr a'u hanifeiliaid anwes, ac i helpu i gynnal eu perthynas unigryw.

Dangosodd ein canfyddiadau eraill:

  • Roedd 89% o weithwyr proffesiynol yn ymwybodol o achosion o gam-drin domestig lle'r oedd anifeiliaid anwes hefyd wedi cael eu cam-drin
  • Credai 97% o weithwyr proffesiynol fod bygythiadau i anifeiliaid anwes yn cael eu defnyddio fel arf i geisio gorfodi a rheoli rhywun
  • Roedd 89% o weithwyr proffesiynol yn gwybod am achosion lle'r oedd anifeiliaid anwes wedi cael eu defnyddio fel arf ar gyfer cam-drin emosiynol
  • Roedd 59% o weithwyr proffesiynol yn gwybod am achosion lle'r oedd cam-drin economaidd wedi effeithio ar anifeiliaid anwes, neu allu perchennog i ofalu am anifail anwes