Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow all or manage them individually.

Manage cookiesAllow all

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you’re interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.

Save preferences

Gadael y safle

Manteision maethu

Ydych chi’n hoffi’r syniad o ddeffro yn y bore i weld ci bach cyffrous yn ysgwyd ei gynffon? Neu o fynd am dro gyda chyfaill bach blewog i’ch helpu i fynd allan drwy’r drws bob dydd? Dyma ddim ond rhai o’r manteision o faethu ci gyda’r Prosiect Rhyddid.

Dim biliau llawfeddyg

Mae maethu ci gyda ni’n ddi-gost – byddwn ni’n talu am yr holl gostau bwyd, biliau llawfeddyg a deunydd gwely.

Lechyd ac ymarfer corff

Gall gofalu am gi eich annog i fynd am droeau hirach ac aros yn egnïol. Gall hefyd eich helpu i gyfarfod â phobl yn eich cymuned.

Rhoi’n ôl

Mae ein gofalwyr maeth yn gwybod eu bod nid yn unig yn helpu ci mewn angen ond hefyd yn helpu i ddiogelu teulu.   

Lles

Yn ôl llawer o’n gwirfoddolwyr, mae cael cwmni ci yn eu cartref wedi cael effaith bositif ar eu lles a’u hiechyd meddwl.  

Cyfrinachol  

Oherwydd natur ein gwaith, ni chewch wybod dim byd am deulu’r ci ac ni fyddan nhw’n gwybod dim byd amdanoch chi. Mae gennym bolisïau a gweithdrefnau i warchod cyfrinachedd ein cleientiaid a’n gwirfoddolwyr. 

Tîm cefnogol

Bydd ein tîm profiadol wrth law i helpu bob cam o’r ffordd. P’un ai drwy sgwrsio am antur ddiweddaraf y ci neu roi cyngor ac arweiniad drwy hyfforddiant cŵn.  

Gwahanol fridiau

Mae ein gofalwyr maeth yn ennill profiad gwerthfawr drwy ofalu am wahanol fridiau o gŵn o wahanol natur a chymeriad.  

Cyfathrebu a diweddaru rheolaidd gan y tîm

Ni allwn redeg y prosiect hanfodol hwn heb ein gwirfoddolwyr anhygoel ac rydym eisiau diweddaru ein gofalwyr maeth ar bopeth y llwyddwn i’w wneud. 

"Gall fod yn anodd i’n gofalwyr maeth ffarwelio â’u cŵn ar ddiwedd y siwrne faethu, ond maen nhw’n gwybod eu bod yn dychwelyd at deulu sydd wedi eu colli’n ofnadwy.

Yn aml iawn bydd ein cleientiaid yn ysgrifennu llythyrau diolch bendigedig at ein gwirfoddolwyr, sy’n cael eu pasio ymlaen yn ddiogel a di-enw gan ein tîm.   Mae’r llythyrau’n aml yn dweud na fydden nhw’n gwybod ble fydden nhw heddiw heb help y gofalwr maeth.

Pob dydd, drwy gymorth y Prosiect Rhyddid a’n gofalwyr maeth anhygoel, mae teuluoedd yn gallu dianc rhag cam-drin ac ail-afael yn eu bywydau. Ac mae hynny’n wych."  

Laura – Rheolwr Rhanbarthol Prosiect Rhyddid