Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow all or manage them individually.

Manage cookiesAllow all

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you’re interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.

Save preferences

Gadael y safle

Dod yn ofalwr maeth gyda’r Prosiect Rhyddid

Helpwch i newid bywydau teuluoedd sy’n dianc rhag cam-drin domestig drwy agor eich cartref a’ch calon i gi maeth. 

Gwnewch gais yma

Pam gwirfoddoli gyda’r Prosiect Rhyddid? 

Mae’r Prosiect Rhyddid yn wasanaeth cŵn maeth hanfodol i bobl sy’n dianc rhag cam-drin domestig. Mae ein rhieni maeth yn gwybod eu bod nid yn unig yn helpu ci mewn angen ond hefyd yn helpu teulu i ddianc rhag cam-drin domestig. Mae gan faethu holl fanteision gofalu am gi heb y gost a’r ymrwymiad hirdymor.

Roedd 84% o’n gwirfoddolwyr yn dweud bod cefnogaeth tîm y Prosiect Rhyddid yn ‘ardderchog’.

Roedd 96% o’n gwirfoddolwyr yn dweud bod maethu yn rhoi boddhad iddyn nhw oherwydd eu bod yn helpu eraill.

Drwy wirfoddoli i faethu ci am 6-9 mis, bydd y perchennog yn gallu mynd i loches gyda’r tawelwch meddwl y bydd eu ci’n cael cariad a gofal gan rywun. Byddwn ni’n talu am yr holl fwyd, costau a biliau milfeddyg ac mae llwyth o fanteision gwych o fod yn rhan o’r prosiect. 

Roedd 88% o wirfoddolwyr y Prosiect Rhyddid yn dweud bod maethu wedi cael effaith gadarnhaol ar eu llesiant a’u hiechyd meddwl.

Roedd 86% o wirfoddolwyr y Prosiect Rhyddid yn dweud bod maethu wedi cynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o gŵn.

Croesawu ci maeth 

Mae pob ci’n unigolyn ac mae ein tîm profiadol yn paru cŵn gyda’r gofalwyr maeth sy’n ffitio orau i’w ffordd o fyw.  Ar gyfartaledd, mae’r lleoliadau maeth yn para rhwng 6-9 mis nes bydd y cŵn yn cael eu haduno â’u perchnogion. Drwy gydol y lleoliad maeth mae ein staff cyfeillgar yn rhoi cyngor a chefnogaeth a byddwn yn talu am holl gostau’r ci.  

Manteision maethu   Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio

Stori gwirfoddolwr

A oes gennych awydd maethu? Gallwch glywed gan un o’n gwirfoddolwyr beth mae maethu i’r Prosiect Rhyddid yn ei olygu iddynt hwy.

Stori gwirfoddolwr

Cwestiynau Cyffredin

Dysgwch fwy am faethu gyda’r Prosiect Rhyddid.

Cwestiynau Cyffredin

Allwch chi wirfoddoli? 

Mae maethu ci’n ymrwymiad mawr ond yn gyfle gwych hefyd. Dyma glywed gan rai o’n gwirfoddolwyr am sut y gweithiodd y profiad iddyn nhw.

Dod yn ofalwr maeth gyda’r Prosiect Rhyddid 

Gallwch newid bywydau teuluoedd sy’n dianc rhag cam-drin domestig drwy ddod yn ofalwr maeth Prosiect Rhyddid heddiw. 

Gwnewch gais yma   Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio