Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow all or manage them individually.

Manage cookiesAllow all

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you’re interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.

Save preferences

Gadael y safle

Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio

Mae ein Prosiect Rhyddid yn wasanaeth maethu cŵn arbenigol i rai sy’n ffoi rhag cam-drin domestig. Yn anffodus, mae cam-drin domestig yn eithriadol o gyffredin, ac mae ymchwil wedi dangos cysylltiad cryf rhwng cam-drin domestig a cham-drin anifeiliaid.

Ni fydd llawer o bobl sy’n ffoi rhag cam-drin domestig yn fodlon gadael eu cartref cyn y byddant yn gwybod y bydd gan eu ci rywle diogel i fyw. Rydym yma i helpu.

Rydym yn darparu gofal i gŵn am tua 6-9 mis yng nghartrefi ein gofalwyr maeth ymroddedig, Ers agor ein drysau yn 2004, rydym wedi maethu miloedd o gŵn ac mae gennym lawer o storïau am lwyddiant a diweddglo hapus i’w rhannu.

Mae’r prosiect yn cael ei redeg gan dîm o staff profiadol a chefnogol, sydd i gyd yn fenywod. Byddwn yn defnyddio ein harbenigedd i’ch paru chi â’r ci maeth perffaith a byddwn yn cynnig help drwy gydol eu harhosiad â chi.

Oherwydd natur ein gwaith, mae cyfrinachedd yn arbennig o bwysig i ni. Bydd cŵn bob amser yn cael eu maethu mewn ardal sy’n ddigon pell i ffwrdd o ble roeddent yn byw. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â theulu eich ci maeth i adael iddynt wybod sut mae eu ci’n setlo, gan gynnwys anfon lluniau atynt er mwyn iddynt wybod bod eu ffrind pennaf mewn dwylo diogel.

Nod ein Prosiect Rhyddid yw aduno cŵn â’u teuluoedd. Pan ddaw’r amser, byddwn yn rhoi gwybod i chi a byddwn yn gofalu am yr holl drefniadau. Mae’n anorfod y byddwch yn magu perthynas agos â’ch ci maeth ac yn drist pan ddaw’n amser iddo adael. Ond gallwch gysuro’ch hun drwy wybod eich bod wedi chwarae rhan allweddol mewn helpu teulu a’u ci i ddod o hyd i le diogel, sy’n rhywbeth y byddant yn hynod ddiolchgar amdano.

Clywed gan ofalwr maeth

A oes gennych awydd maethu? Gallwch glywed gan un o’n gwirfoddolwyr beth mae maethu i’r Prosiect Rhyddid yn ei olygu iddynt hwy.

Stori gwirfoddolwr