Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow all or manage them individually.

Manage cookiesAllow all

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you’re interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.

Save preferences

Gadael y safle

Stori gwirfoddolwr

Ni fyddai’n bosibl rhedeg y Prosiect Rhyddid heb ein gofalwyr maeth gwych ac ymroddedig. Dyma hanes Sue, sydd wedi bod yn maethu gyda’r Prosiect Rhyddid ers 2014. 

Mi ddechreuon ni faethu gyda’r Prosiect Rhyddid yn 2015.

Rydym yn deulu gyda merched yn eu harddegau. Merched a oedd yn awyddus iawn i gynnig cartref i gi.

Ar ôl misoedd o swnian arnom i gael ci, mi welais hysbyseb gan y Prosiect Rhyddid mewn papur lleol a’r mae’r gweddill, yn hen hanes, fel y byddan nhw’n dweud.

Roedd y prosiect yn berffaith inni – rydym yn cael y pleser o gael ci o gwmpas, heb yr ymrwymiad oes. Rydym hefyd yn helpu’r ci a’i berchennog ar adeg pan fydd eu hangen yn fawr.

Rydym yn mwynhau cwrdd â’r cŵn newydd ac yn eu gweld yn setlo. Mae’r ferch ieuengaf wrth ei bodd yn mynd â nhw am dros a dechrau dod i adnabod eu gwahanol bersonoliaethau.

I ni, y peth anoddaf am faethu yw bod y cŵn weithiau’n gallu bod braidd yn ofnus o rai pethau, fel y peiriant glanhau carpedi neu frwsh llawr, er enghraifft, efallai oherwydd rhywbeth sydd wedi digwydd iddynt yn eu gorffennol. Ond mae’r tîm Rhyddid ar ben arall y ffôn inni bob amser i helpu os oes problem. Does dim byd yn well na phan fydd ci’n ymddiried digon ynddoch chi i swatio’n braf a mynd i gysgu gyda’i ben ar eich glin.

Mae’r ymarfer corff ychwanegol hefyd yn fonws mawr inni. Rydym yn cael gymaint o bleser yn mynd am dro hir gyda’n ffrindiau dros dro ag yr ydym wrth roi mwythau iddynt ar y soffa ar ôl cyrraedd adref.

Yn sicr mae teimladau cymysg ar ddiwedd lleoliad. Wrth gwrs, ei bod yn drist gweld eich ffrind newydd yn gadael, ond mi allwch fod yn dawel eich meddwl drwy wybod eich bod wedi helpu ci a’i berchennog ar adeg o angen. Rydych wedi chwarae rhan bwysig i helpu rhywun gael allan o sefyllfa anodd, ac i ddod â ffrindiau gorau’n ôl at ei gilydd.

Mae mor braf gwybod eu bod yn hapus o gael bod yn ôl gyda’i gilydd. Dyna pam rydym ni’n gwneud hyn, wedi’r cyfan.

Mi fuaswn i’n argymell i unrhyw un sy’n ystyried bod yn ofalwr maeth i roi cynnig arni. Mae hi’n fraint cael dod i adnabod cymaint o wahanol fathau o gŵn, ac mae help ar gael i chi bob cam o’r ffordd.

Camau i fod yn ofalwr maeth

A hoffech chi wybod mwy am faethu i Brosiect Rhyddid? Gallwch ddarllen ein camau ar sut i fod yn ofalwr maeth.

Taith gofalwr maeth

A ydych chi’n barod i fod yn ofalwr maeth?

Os ydych chi’n meddwl y byddai gwirfoddoli â Phrosiect Rhyddid yn addas i chi, gallwch wneud cais ar-lein a dechrau ar eich taith gyda Phrosiect Rhyddid.

Cofrestru i wirfoddoli