Gadael y safle

Siwrne gofalwr maeth

Mae agor eich cartref a’ch calon i gi maeth yn brofiad ofnadwy o werth chweil. Nid yn unig y byddwch yn helpu ci a’i deulu i ddianc rhag cam-drin domestig, byddwch hefyd yn gallu treulio llwyth o amser gyda ffrind bach blewog.

Yn ôl ein gofalwyr maeth, mae cael ci bach dros dro’n gwella eu lles a’u hatal rhag mynd i deimlo’n unig.

Os ydych yn barod i groesawu cyfaill bach pedair-coes i’ch bywyd, byddwn yn eich tywys drwy’r camau canlynol:

Cam 1: Gwneud Cais

Er mwyn ein helpu i bennu ci maeth addas i chi, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais i ddechrau. Bydd yn rhoi trosolwg i ni o’ch profiad a’r math o gartref y gallwch ei gynnig i gi. Mae’n ein galluogi i sicrhau y gallwn barhau â’ch cais.

Cam 2: Ymweld â’r cartref

Yn dilyn eich cais cychwynnol, byddwn yn trefnu i ymweld â’ch cartref. Yn ddelfrydol, hoffem gwrdd â’ch holl deulu gyda’i gilydd gan gynnwys unrhyw anifeiliaid anwes allai fod gennych.

Mae’r ymweliad cartref yn gyfle i chi gwrdd ag aelod o’r tîm Prosiect Rhyddid a fydd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych a’ch helpu i benderfynu os yw’r cyfle gwirfoddoli yn iawn i chi.

Byddwn hefyd yn trafod unrhyw anifeiliaid anwes eraill sydd gennych, fel y gallwn sicrhau bod y ci maeth yn addas i chi a’ch anifeiliaid anwes. Byddwn hefyd eisiau sicrhau bod eich anifeiliaid presennol yn fodlon rhannu eu cartref gyda chi maeth.

Ar ddiwedd yr ymweliad cartref, byddwn yn gofyn i chi gofrestru ein ‘cytundeb Gofalwyr Maeth Gwirfoddol’ sy’n amlinellu eich cyfrifoldebau fel gofalwr maeth a’n rhai ni i chi fel gwirfoddolwr.

Cam 3: Geirdaon

Yn dilyn yr ymweliad cartref, byddwn yn gwirio eich geirdaon ac yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi eich bod wedi llwyddo i ddod yn ofalwr maeth.

Cam 4: Aros am gi

Unwaith rydym wedi cadarnhau eich bod wedi bod yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich ychwanegu i’n ffeil o ofalwyr maeth sydd ar gael. Does dim angen i chi wneud unrhyw beth arall, oni bai bod eich sefyllfa’n newid. Yn yr achos hynny, gofynnwn i chi roi gwybod i ni.

Cofiwch y gall gymryd unrhyw beth o ychydig ddyddiau i sawl wythnos nes y byddwn yn dod o hyd i gi maeth addas i chi. Gall gymryd yn hirach os oes gennych eisoes blant, anifeiliaid anwes neu ofynion ychwanegol.

Mae hyn oherwydd rydym eisiau sicrhau ein bod yn rhoi’r ci iawn yn eich cartref a’ch teulu. 

Cam 5: Cynnig ci

Unwaith mae ci wedi cael ei atgyfeirio i ni, ac rydym yn nodi chi fel gofalwr maeth addas iddo, byddwn yn ffonio i sicrhau eich bod ar gael ac yn rhoi gwybodaeth i chi am y ci. Os hoffech fwrw ymlaen â’r lleoliad, bydd aelod o’r tîm Prosiect Rhyddid yn trefnu i gasglu’r ci a mynd ag ef yn syth i’r cartref ar amser y cytunwyd arno.

Cam 6: Lleoliad

Ar y diwrnod byddwn yn dod â’ch ci maeth, byddwn yn dod â’r holl offer sydd ei angen ar eich ci maeth ar gyfer yr arhosiad, gan gynnwys:

  • Coler gyda thag ID
  • Tennyn a harnais os oes angen
  • Gwely a dillad gwely
  • Teganau
  • Bagiau gwastraff
  • Bwyd a phowlenni
  • Brwshys

Byddwn yn trafod yr holl wybodaeth am y ci maeth gyda chi, megis ei drefn arferol ac unrhyw hyfforddiant neu anghenion meddygol allai fod ganddo.

Cefnogaeth barhaus

Unwaith fydd eich ci maeth wedi setlo, byddwch yn derbyn cefnogaeth ac arweiniad parhaus gan ein tîm cyfeillgar. Byddwn yn ymweld â’ch cartref bob mis i weld sut y mae pethau’n mynd ac a oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda’ch ci maeth newydd. Byddwn hefyd yn tynnu lluniau i’w postio at deulu’r ci maeth i’w diweddaru ar sut y mae’r ci’n dod yn ei flaen. 

Tra bydd eich ci maeth yn aros gyda chi, bydd ein tîm profiadol gyda chi bob cam o’r ffordd.

Manteision maethu

Barod i ymgeisio?

Mae wastad angen mwy o ofalwyr maeth arnom i ofalu am gŵn sy’n dianc rhag cam-drin domestig.

Gwnewch gais yma

Cwestiynau Cyffredin

Dysgwch fwy am faethu gyda’r Prosiect Rhyddid.

Cwestiynau Cyffredin

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences