Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow all or manage them individually.

Manage cookiesAllow all

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you’re interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.

Save preferences

Gadael y safle

Taith faethu eich ci

Fel rhai sy’n hoff o gŵn, mi wyddom pa mor bwysig yw eich ci i chi. Mi wnawn yn siŵr y cânt yr holl gariad, gofal a sylw sydd ei angen arnynt tra byddwch chi’n cael trefn ar bethau.

Rydym yn sylweddoli bod cael eich gwahanu oddi wrth eich ci yn gallu bod yn anodd iawn. Mi fyddwn gyda chi bob cam o’r ffordd i helpu’r ddau ohonoch ac i wneud y broses yn un mor rhwydd â phosibl.

Casglu

Bydd siwrnai faethu pob ci yn cychwyn pan fyddwn yn cwrdd â chi i’w gasglu. Bydd ein tîm cyfeillgar a phrofiadol yn helpu i wneud y cam hwn mor hawdd â phosibl i bawb.

Eich ci’n cyrraedd ei gartref maeth

Wedyn, byddwn yn mynd â’ch ci i’w gartref maeth. Byddwn yn mynd â’r holl bethau fydd eu hangen arno gyda ni. O harnais a thennyn ar gyfer anturiaethau cyffrous, a gwely clyd i swatio’n braf ar ddiwedd y dydd.

Rydym yn sylweddoli bod pob ci’n unigryw. Ni fydd digon o faldod ar gael i rai, a bydd yn well gan eraill gael gofod diogel tra byddant yn cynefino.

Beth bynnag fydd anghenion eich ci, mi fyddwn yno iddynt bob cam o’r ffordd.

Archwiliad gan filfeddyg

Pan fydd eich ci yn ein gofal, bydd yn mynd at filfeddyg lleol i gael archwiliad iechyd.

Bydd y milfeddyg yn gwneud yn siŵr bod eich ci wedi cael ei holl frechiadau ac wedi cael triniaethau rhag chwain a llyngyr, yn ogystal â chael triniaeth at unrhyw gyflwr meddygol sydd ganddo.

Mi fyddwn yn talu am yr holl driniaethau milfeddygol – ni fydd yn costio ceiniog i chi.

Mi fyddwn yn eich diweddaru am unrhyw driniaeth a gaiff eich ci pan fydd yn ei gartref maeth.

Ymweliadau rheolaidd a diweddariadau

Drwy gydol yr amser pan fydd eich ci gyda ni, byddwn yn ymweld yn rheolaidd i weld sut mae pethau.

Byddwn yn helpu ein gofalwyr maeth i wneud yn siŵr bod eich ci’n setlo yn ei gartref newydd dros dro.

Byddwn hefyd yn anfon diweddariadau, a lluniau’n rheolaidd, i adael i chi wybod sut mae eich ci.

Aduniad Teuluol

Nod ein Prosiect Rhyddid yw eich gweld yn cael eich aduno â’ch ci.

Cyn gynted ag y byddwch mewn sefyllfa i gael eich ci’n ôl, gadewch inni wybod, ac mi wnawn ni’r gweddill. Byddwn yn trefnu i’ch cyfarfod mewn lleoliad diogel gyda’ch ci ac yn rhoi’r holl wybodaeth bwysig fydd ei hangen arnoch.

Roedd yn dorcalonnus gorfod ffarwelio â Dusty gan nad oeddwn yn siŵr a fyddwn yn ei weld eto. Roedd yn teimlo fel bod rhywun yn cymryd fy mabi oddi arna i. Ond roedd y diweddariadau gan y Prosiect Rhyddid yn help mawr i dawelu fy meddwl. Roeddent yn anfon lluniau ohono bob mis ac mi wnes i eu rhoi ar gynfas tra’r oeddwn yn y lloches.

Roeddwn yn poeni pan ddaethant ag ef yn ôl na fyddai yn fy adnabod. Ond mi neidiodd ataf ar unwaith; roedd fel pe bai heb fod i ffwrdd o gwbl.

Rwyf mor ddiolchgar i’r Prosiect Rhyddid; rwyf mor ddiolchgar mod i wedi cael cadw fy nghi.

-        Gemma, Cleient Prosiect Rhyddid

Atgyfeirio eich ci at y Prosiect Rhyddid

Os oes angen i chi atgyfeirio eich ci at y Prosiect Rhyddid, rydym yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd.

Sut i gyfeirio eich ci

Cwestiynau Cyffredin

Ewch i’n Cwestiynau Cyffredin i ddysgu mwy am atgyfeirio eich ci at y prosiect.

Cwestiynau Cyffredin