Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow all or manage them individually.

Manage cookiesAllow all

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you’re interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.

Save preferences

Gadael y safle

Gwasanaeth maethu cŵn arbenigol i oroeswyr cam-drin domestig

Os ydych chi’n ffoi rhag cam-drin domestig mae help ar gael i chi ac i’ch anifeiliaid anwes. Mae ein prosiect Rhyddid yn cynnig gofal maeth di-dâl a chyfrinachol i’ch ci gan eich galluogi chi i gael cartref dros dro gan wybod y bydd eich ci’n cael gofal a chariad.

Sut y gallwn eich helpu

Mae llawer o lochesi’n gwrthod derbyn cŵn, sy’n ei gwneud yn anos i ffoi rhag cam-drin domestig. Mae gwybod y bydd eich ci’n ddiogel yn eich galluogi i ganolbwyntio ar gael yr help sydd ei angen arnoch.

Os byddwch yn dewis defnyddio ein gwasanaeth, byddwn yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd. Bydd eich ci’n cael ei leoli mewn cartref maeth dros dro gydag un o’r gwirfoddolwyr gwych. Bydd yn cael pob gofal, cariad a sylw i deimlo’n gartrefol tan y bydd yn gallu dychwelyd atoch.

Am ddim

Mae’r gwasanaeth yn un cwbl ddi-dâl, a byddwn yn talu cost triniaethau milfeddygol, bwyd ac unrhyw beth arall fydd ei angen arnynt tra byddant yn ein gofal (teganau, danteithion a blancedi clyd).

Cyfrinachol

Mi fydd eich ci’n ddiogel gyda ni. Ni wanwn ni byth roi eich manylion i neb, gan gynnwys y gofalwr maeth a fydd yn gofalu am eich ci. Byddwn hefyd yn eu maethu’n ddigon pell o’r fan lle’r ydych yn ffoi.

Tîm arbenigol

Mae gennym lawer o brofiad o helpu pobl a’u hanifeiliaid anwes sy’n ffoi rhag cam-drin domestig. Byddwn yn deall eich sefyllfa ac yn trafod yr holl all opsiynau â chi.

Help

Rydym yn sylweddoli pa mor anodd yw cael eich gwahanu oddi wrth eich ci. Dyna pam y byddwn yn cadw mewn cysylltiad i’ch diweddaru ac anfon lluniau rheolaidd atoch.

Sut i gyfeirio eich ci

Mae atgyfeirio eich ci at y Prosiect Rhyddid yn syml a chyfrinachol.

Sut i gyfeirio eich ci

Siwrnai faethu eich ci

Mi gewch dawelwch meddwl drwy wybod bod eich ci’n cael gofal da.

Taith faethu eich ci

Cwestiynau Cyffredin

Darllenwch ein hatebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir am wasanaetha maethu’r Prosiect Rhyddid.

Cwestiynau Cyffredin

Cael cymorth ar gyfer cam-drin domestig

Manylion am fudiadau a gwasanaethau eraill sy’n cynnig cyngor a chymorth i chi a’ch anifeiliaid anwes.

Cael cymorth ar gyfer cam-drin domestig

Stori Gemma

Ar ôl dioddef cam-drin domestig am 3 blynedd, gwnaeth Gemma’r penderfyniad dewr i adael ei chynbartner. Yr unig broblem oedd na allai wynebu gadael ei hannwyl gi Dusty ar ôl. Wrth lwc, roedd ein Prosiect Rhyddid yno i helpu.

Meddai Gemma,

“Yn y diwedd mi wnes i lwyddo i ffoi i loches gyda fy mab, ond nid oedd modd iddynt gymryd Dusty hefyd. A dyna pryd wnes i glywed am y Prosiect Rhyddid. Mi oedden nhw’n wych, ac o fewn 24 awr roeddent wedi dod o hyd i gartref maeth i Dusty.”

Tra’r oedd yn ein gofal, cafodd Dusty sawl trip i’r traeth gyda’i ofalwyr maeth, ac roeddem yn diweddaru Gemma’n rheolaidd gyda lluniau a newyddion. Rydym mor falch o ddweud eu bod yn ôl gyda’i gilydd erbyn hyn ac yn edrych ymlaen at eu siwrnai, gyda’i gilydd.