Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow all or manage them individually.

Manage cookiesAllow all

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you’re interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.

Save preferences

Gadael y safle

Sut i gyfeirio eich ci

Rydym yn sylweddoli pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr bod eich ci’n ddiogel. Am nad oes llawer o lochesi’n gallu derbyn anifeiliaid anwes, mi all ein Prosiect Rhyddid ddod o hyd i gartref maeth dros dro diogel a chariadus i’ch ci nes bydd modd i chi ddod at eich gilydd unwaith eto.

Mae ein gwasanaeth yn un cwbl gyfrinachol a di-dâl. Byddwn yn talu costau bwyd, gofal milfeddygol eich ci, ac unrhyw deganau neu ddanteithion fydd eu hangen arnynt i’w helpu i setlo.

Ar ôl i chi gysylltu â ni, bydd angen un neu ddau o bethau arnom i brosesu eich atgyfeiriad. Ond peidiwch â phoeni, mi allwn drafod yr hyn fydd ei angen pan gawn sgwrs.

Cam 1: 

I ddechrau, byddwn yn cael mwy o wybodaeth am eich ci. Po fwyaf a wyddom am ei ymddygiad, haws fydd hi i ddod o hyd i deulu maeth addas. Byddwn yn gofyn i chi, neu eich gweithiwr cymorth, i lenwi ffurflen am eich ci i’n helpu i ddeall ei anghenion ac fe allwn ofyn ichi anfon ffotograffau ohonynt.

Cam 2: 

Byddwn yn rhoi ichi ddogfen gytundeb sy’n egluro telerau ac amodau lleoliad maeth eich ci. Os penderfynwch roi eich ci ar faeth gyda ni, byddwn yn gofyn ichi lofnodi i gadarnhau eich bod yn cytuno â’r rhain. Byddwn hefyd yn gofyn am e-bost neu lythyr gan eich gweithiwr cymorth neu gan asiantaeth berthnasol yn cadarnhau eich bod yn ffoi rhag cam-drin domestig a’ch bod yn cael help i ddod o hyd i lety diogel.

Cam 3: 

Byddwn yn paru eich ci ag un o’n gofalwyr maeth gwirfoddol, gofalgar ac yn gwneud trefniadau i gasglu eich ci o le diogel.

Mi wyddom fod trefnu i’ch ci i fynd i ofal maeth dros dro’n gam mawr, ond rydym yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch neges ac mi gysylltwn â chi cyn gynted â phosibl.  

Mi allwn gynnig cartrefi maeth i gŵn sydd dros 8 mis oed, a chŵn sydd wedi bod yn eiddo i’r sawl sy’n eu hatgyfeirio ers o leiaf 6 mis. Os nad yw hyn yn wir yn achos eich ci chi, ffoniwch ni i drafod yr holl opsiynau sydd ar gael i chi. 

 

Ffoniwch ni

I siarad ag un o’n tîm o fenywod yn unig gyda’r Prosiect Rhyddid, ffoniwch un o’r rhifau isod. Os nad ydych chi’n byw yn un o’r ardaloedd hyn, ffoniwch eich tîm rhanbarthol agosaf ac mi allwn eich helpu a’ch cyfeirio.  

Cymru

0300 373 0677

Llundain a’r Siroedd Cyfagos

0800 298 9199

Swydd Efrog

0800 083 4322

Gogledd Orllewin Lloegr

0300 303 4139

 

East Anglia

0808 196 6240

Gogledd Ddwyrain Lloegr

0300 303 3497

Yr Alban

0808 169 4315

Anfonwch e-bost

Os byddai’n well gennych i ni anfon e-bost, mi wnawn ein gorau i’ch ateb o fewn 24 awr. Peidiwch â chysylltu â ni drwy e-bost oni bai eich bod yn siŵr bod eich cyfrif yn ddiogel ac nad yw’n cael ei fonitro.

Mae rhagor o wybodaeth ar gadw negeseuon e-bost yn ddiogel ar wefan Cymorth i Ferched Cymru. 

freedomproject@dogstrust.org.uk

Taith faethu eich ci

Dysgwch ragor am siwrnai faethu eich ci pan fydd yn ein gofal

Taith faethu eich ci

Cael cymorth ar gyfer cam-drin domestig

Cysylltwch â gwasanaethau arbenigol i gael help a gwybodaeth

Cael cymorth ar gyfer cam-drin domestig