Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow all or manage them individually.

Manage cookiesAllow all

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you’re interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.

Save preferences

Gadael y safle

Camau i gyfeirio achos

Yn y Dogs Trust, rydym yn sylweddoli pa mor bwysig yw cŵn i'w teuluoedd. Mae ein hymchwil wedi dangos bod 95% o weithwyr proffesiynol wedi dweud na fyddai rhai goroeswyr yn fodlon gadael eu cartref heb wybod y bydd eu hanifeiliaid anwes yn ddiogel.

Gan na all llawer o lochesi dderbyn anifeiliaid anwes, mae ein Prosiect Rhyddid yn ateb a fydd yn helpu eich cleient i gyrraedd diogelwch, a threfnu cartref dros dro diogel a chariadus i'w ci.

Mae'r gwasanaeth ar gael am ddim, ac mae’n gwbl gyfrinachol. Rydym yn talu costau bwyd, triniaeth filfeddygol ac unrhyw deganau a danteithion a all fod eu hangen ar y ci.

Os hoffech wneud atgyfeiriad, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod. Os nad yw eich cleient yn byw yn un o'r ardaloedd hyn, ffoniwch eich tîm rhanbarthol agosaf a gallwn gynnig cymorth a helpu i’w cyfeirio.

Sut mae'r broses atgyfeirio yn gweithio:

Cam 1: Gwaith Papur Atgyfeirio

Byddwn yn gofyn i chi neu'ch cleient lenwi ffurflen i'n helpu i ddeall anghenion eu ci, ac efallai y byddwn yn gofyn am ffotograffau o'r ci.

Os yw'n bosibl, byddem yn hoffi cael sgwrs â'ch cleient i ddysgu mwy am eu ci, er mwyn bod yn y sefyllfa orau i'w paru â'r teulu maeth gorau.

Mae ein tîm cefnogol, sydd i gyd yn fenywod yn hapus bob amser i ateb unrhyw gwestiynau am y prosiect neu i drafod unrhyw bryderon sydd gennych chi neu'ch cleient.

Cam 2: Cytundeb a chadarnhau Cam-drin Domestig

Byddwn yn llunio dogfen gytundeb sy'n esbonio telerau ac amodau lleoliad maeth y ci.

Os bydd eich cleient yn penderfynu caniatáu inni faethu eu ci, byddwn yn gofyn iddynt ei lofnodi i gadarnhau eu bod yn cytuno i'r amodau hyn.

Byddwn hefyd angen e-bost neu lythyr gennych chi fel y gweithiwr cymorth, neu gan asiantaeth berthnasol, sy’n cadarnhau bod y cleient yn ffoi rhag cam-drin domestig ac yn cael cymorth i ddod o hyd i lety diogel.

Cam 3: Maethu Dros Dro  

Byddwn wedyn yn paru'r ci ag un o'n gofalwyr maeth gwirfoddol ymroddgar ac yn gwneud trefniadau i’w casglu o leoliad diogel. Pan fydd y ci wedi ymuno â’r prosiect, byddwn yn gofyn i chi gadw mewn cysylltiad rheolaidd â gweithwyr cymorth ein cleientiaid, i sicrhau eu bod hwythau hefyd yn cael cymorth ac i’n diweddaru ar sut maent yn dod yn eu blaen o ran dod o hyd i lety newydd er mwyn cael dychwelyd eu ci iddynt.

Hyd y lleoliad

Rydym yn cynnig lleoliadau maethu am hyd at 6 mis, ond efallai y gallwn ymestyn y cyfnod hwn. Er mwyn ystyried estyniadau, byddwn yn cysylltu â chi fel y gweithiwr cymorth ac yn gofyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa llety’r cleient.

Gallwn hefyd eich helpu i ddod o hyd i lety newydd, cyfeillgar i anifeiliaid anwes ar gyfer eich cleient. Gallwn baratoi CV Anifail Anwes a chysylltu â Swyddogion Tai i bwysleisio pa mor bwysig yw hi bod yr eiddo newydd yn gyfeillgar i anifeiliaid anwes.