Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow all or manage them individually.

Manage cookiesAllow all

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you’re interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.

Save preferences

Gadael y safle

Cyfeirio

Helpu goroeswyr cam-drin domestig

Rydym yn gweithio’n glos â gwasanaethau cam-drin domestig, ac asiantaethau allweddol eraill, i redeg ein Prosiect Rhyddid ledled y DU.

Rydym eisiau eich helpu chi i chwalu rhwystrau i rywun sy’n ffoi rhag cam-drin domestig, a sicrhau y gallant gyrraedd lle diogel gan wybod y bydd eu hanifail anwes yn ddiogel ac yn cael gofal cariadus nes byddant yn gallu bod gyda’i gilydd unwaith eto.

Os ydych yn helpu rhywun sy’n ffoi rhag camdriniaeth ddomestig, gofynnwch iddynt a oes ganddynt anifeiliaid anwes yn y cartref ac a oes angen help arnynt i’w maethu dros dro. Os gall anifeiliaid adael gyda’u perchennog ar yr adeg pan fyddant yn ffoi, bydd hyn yn golygu na fyddant yn cael eu gadael gyda’r cyflawnwr, lle gallant fod mewn perygl.

CyfeirioCysylltwch â’ch tîm Prosiect Rhyddid lleol

Di-dâl

Mae’r prosiect ar gael yn ddi-dâl, a byddwn yn talu costau pob triniaeth filfeddygol, bwyd ac unrhyw bethau eraill fydd ei angen arnynt pan fyddant yn ein gofal, (teganau, danteithion, a blancedi clyd ac ati).

Cyfrinachol

Bydd cŵn yn ddiogel gyda ni. Ni wnawn ni byth roi manylion eich cleientiaid i neb, gan gynnwys y gofalwr maeth a fydd yn gofalu am eu ci. Byddwn hefyd yn eu lleoli’n ddigon pell o’r fan lle mae’r perchennog yn ffoi.

Tîm Arbenigol

Mae gennym lawer o brofiad o helpu pobl a’u hanifeiliaid anwes i ffoi rhag cam-drin domestig. Rydym yn gweithio’n glos â gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol, a byddwn yn deall eu sefyllfa.

Cymorth

Mi wyddom pa mor anodd y gall pethau fod i bobl pan fyddant yn gorfod gadael eu ci. Felly rydym yn diweddaru ein cleientiaid â newyddion a lluniau er mwyn iddynt weld sut mae eu ci’n setlo.

Gallwch atgyfeirio at ein Prosiect Rhyddid gan wybod ein bod yn wasanaeth arbenigol ar gyfer goroeswyr camdriniaeth ddomestig. Mae ein gwasanaeth am ddim, yn gyfrinachol ac mae gan ein tîm sydd i gyd yn fenywod flynyddoedd o brofiad o helpu goroeswyr a’u hanifeiliaid.

Rydym ymhlith yr aelodau a sefydlodd y Links Pet Fostering Group, sy’n golygu ein bod wedi cytuno i gydymffurfio â safonau gwasanaeth sydd wedi’u creu i sicrhau diogelwch a chymorth i oroeswyr a’u hanifeiliaid.

Gallwn hefyd gynnig gweminarau i elusennau a sefydliadau sy’n helpu goroeswyr camdriniaeth ddomestig, sy’n ymdrin â’r cysylltiad rhwng anifeiliaid anwes a cham-drin domestig, yn ogystal â golwg fwy manwl ar y Prosiect Rhyddid.

Anifeiliaid Anwes a Cham-drin DomestigThe Links Group

Camau i gyfeirio achos

Camau i weithwyr proffesiynol sydd eisiau cyfeirio ci

Camau i gyfeirio achos

Cyfeirio

Cysylltwch â’ch tîm Prosiect Rhyddid lleol

Gwybodaeth am y Prosiect Rhyddid

Gwasanaethau eraill

Gwasanaethau maethu arbenigol eraill ar gyfer anifeiliaid anwes

Gwasanaethau eraill