Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow all or manage them individually.

Manage cookiesAllow all

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you’re interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.

Save preferences

Gadael y safle

Anifeiliaid Anwes a Cham-drin Domestig

Gwyddom o brofiad, a thrwy ymchwil, fod cysylltiad pendant rhwng anifeiliaid anwes a cham-drin domestig.

Gall anifeiliaid anwes fod yn rhwystr i rywun sy'n ffoi rhag camdriniaeth, ac fe'u defnyddir yn aml gan gyflawnwyr fel arf i roi pwysau ar ddioddefwr.

Canfu ein Harolwg* yn 2019 fod anifeiliaid anwes llawer o oroeswyr cam-drin domestig wedi cael eu cam-drin, neu fod eu gallu i ofalu am eu hanifeiliaid anwes wedi’i gyfyngu.

Dywedodd 97% o weithwyr proffesiynol fod anifeiliaid anwes hefyd yn cael eu defnyddio'n aml fel ffordd o reoli a gorfodi rhywun sy'n profi cam-drin domestig.

Dywedodd 9 o bob 10 gweithiwr proffesiynol na fyddai rhai goroeswyr yn fodlon gadael eu cartref heb wybod y byddai eu hanifail anwes yn ddiogel.

Roedd 89% o weithwyr proffesiynol yn ymwybodol o achosion o gam-drin domestig lle'r oedd anifeiliaid anwes hefyd wedi cael eu cam-drin.

Roedd 59% o weithwyr proffesiynol yn gwybod am achosion lle'r oedd cam-drin economaidd wedi effeithio ar anifeiliaid anwes, neu ar allu eu perchennog i ofalu am anifail anwes.

Mae ein perthynas â'n hanifeiliaid anwes yn un bwysig bob amser, yn enwedig pan fyddwn ni'n mynd drwy gyfnodau anodd. Yn anffodus, mae’r sawl sy’n cam-drin hefyd yn deall y berthynas hon, ac yn ei ddefnyddio i gael grym a rheolaeth dros eu partneriaid neu aelodau o'u teuluoedd. Gall hyn amrywio o fygwth niweidio'r anifail anwes, neu eu rhwystro rhag gofalu amdanynt fel yr hoffent.

Rheolaeth gymhellol

Gwyddom fod llawer o gamdrinwyr yn manteisio ar y berthynas sydd gennym â'n hanifeiliaid anwes i gael grym a rheolaeth. Mae'n gyffredin i anifeiliaid anwes gael eu bygwth, neu hyd yn oed eu niweidio, gan gyflawnwyr.

Cam-drin emosiynol

Gallai cam-drin emosiynol neu seicolegol gynnwys camdrinwyr sy'n gwerthu neu'n ailgartrefu anifail anwes annwyl, neu'n galw enwau ar y perchnogion, megis 'perchennog ci drwg'.

Cam-drin corfforol

Mae dros draean o'r cŵn sy'n cael eu hatgyfeirio at ein Prosiect Rhyddid wedi profi camdriniaeth gorfforol hefyd. Mae hyn yn frawychus iawn ac yn drawmatig os yw eu perchnogion yn ei dystio. Rydym yn gweithio'n agos â'r Links Group, sy'n gweithio i godi ymwybyddiaeth ymhlith milfeddygon o anafiadau nad ydynt yn rhai damweiniol.

Cam-drin economaidd

Bydd llawer o'r rhai sy'n cam-drin yn rheoli mynediad at arian ac yn atal perchnogion cŵn rhag cael gofal milfeddygol hanfodol neu fwyd i’w cŵn. Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim, byddwn yn trefnu archwiliad iechyd ac unrhyw frechiadau neu driniaethau chwain a llyngyr fydd eu hangen. 

O ystyried y cysylltiad agos rhwng anifeiliaid anwes a cham-drin domestig, mae ein gwasanaeth yn hanfodol i sicrhau bod pobl a'u hanifeiliaid anwes yn gallu dianc i ddiogelwch. Mae ein Prosiect Rhyddid wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer goroeswyr cam-drin domestig, ac rydym yn cydymffurfio â safonau gwasanaeth llym a osodwyd drwy'r Links Pet Fostering Group.

*Pets and Domestic Abuse Professionals Survey 2019

Pets & Domestic Abuse Survey 2019

Mae ein blog diweddar yn ymhelaethu ar ein hymchwil a’r cysylltiad rhwng anifeiliaid anwes a cham-drin domestig.

Pets & Domestic Abuse Blog